Bydd y plentyn buddugol yn ennill darn o waith celf gwreiddiol gan grëwr Mellten, Huw Aaron, tocyn teulu ar gyfer Gŵyl y Gelli 2018, a bydd ei stribed yn cael ei gynnwys yn y rhifyn nesaf o Mellten! Caiff dy ddosbarth wobr arbennig hefyd, sef ymweliad gan Huw Aaron i gynnal gweithdy cartwnio.
Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb, ac mae'r dewis gyda chi i gwblhau'r stribed cartŵn Capten Clonc isod (mae fersiwn i'w brintio ar wefan mellten.com), neu i greu cymeriad neu stribed cartŵn newydd.
Anfona dy waith at cllc.plant@llyfrau.cymru, neu trwy'r post at "Cystadleuaeth Mellten", Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB.
JOIWCH!
Cystadleuaeth ar y cyd rhwng Mellten a Chyngor Llyfrau Cymru yw hon. Am fwy o fanylion ewch i
www.darllencymru.org.uk…
