Breuddwyd Myrddin
Roedd hi’n fore cynta’r gwanwyn yng Nghoed Eryri. Disgleiriai’r haul drwy frigau’r pren afalau, a chripian tuag at y ddau oedd yn cysgu islaw. Mochyn bach gwyllt oedd un, a chyn-filwr o’r enw Myrddin oedd y llall.
Deffrôdd y mochyn bach ar unwaith, ond doedd Myrddin ddim eisiau deffro’r bore hwnnw. Roedd e’n breuddwydio am achub Ynys Prydain. Am freuddwyd gwych!
Roedd Prydain, gwlad y Brythoniaid, mewn perygl. Roedd y gelyn yn heidio dros y môr ac yn llyncu tiroedd y de a’r dwyrain. A ble roedd y Brythoniaid? Yn lle ymosod ar y gelyn, roedden nhw’n ymladd yn erbyn ei gilydd.
Dyna pam roedd Myrddin wedi dianc i Goed Eryri a thaflu’i gleddyf ar lawr. Doedd e ddim am frwydro yn erbyn ei frodyr. Doedd ef ei…
